Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith /

Climate Change, Environment and Infrastructure Committee

Bil drafft Diogelu'r Amgylchedd (Cynhyrchion Plastig Untro) (Cymru)/

Draft Environmental Protection (Single-use Plastic Products)(Wales) Bill

SUP_29

Ymateb gan Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru / Evidence from Welsh Local Government Association

 

 

Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith : 5 Medi 2022

 

Bil Drafft Diogelu’r Amgylchedd (Cynhyrchion Plastig Untro) (Cymru)

RHAGARWEINIAD

 

1.    Mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (y Gymdeithas) yn sefydliad trawsbleidiol dan arweiniad gwleidyddol sy’n ceisio rhoi llais cryf i lywodraeth leol ar lefel genedlaethol. Mae’r Gymdeithas yn cynrychioli buddiannau llywodraeth leol ac yn hybu democratiaeth leol yng Nghymru. Mae’r 22 Cyngor yng Nghymru yn aelodau o’r Gymdeithas ac mae'r tri awdurdod tân ac achub ac awdurdodau'r tri pharc cenedlaethol yn aelodau cyswllt.

 

2.    Mae’r Gymdeithas yn credu bod y syniadau sy’n newid bywydau pobl yn digwydd yn lleol. Mae cymunedau ar eu gorau pan maent yn teimlo eu bod wedi’u cysylltu â’u cynghorau trwy ddemocratiaeth leol. Trwy hyrwyddo’r cysylltiadau hynny, eu hwyluso a’u cyflawni, gallwn ddatblygu democratiaeth leol fywiog sy’n galluogi cymunedau i ffynnu.

 

3.    Prif nod y Gymdeithas yw hyrwyddo, diogelu, cefnogi a datblygu llywodraeth leol ddemocrataidd a buddiannau Cynghorau yng Nghymru. Golyga hyn:

·         Hyrwyddo rôl ac amlygrwydd cynghorwyr ac arweinwyr cynghorau

·         Sicrhau’r disgresiwn lleol mwyaf mewn deddfwriaeth neu ganllawiau statudol

·         Cefnogi a sicrhau cyllid cynaliadwy a hirdymor i gynghorau

·         Hybu gwelliant dan arweiniad sector

·         Annog democratiaeth leol fywiog, gan hybu mwy o amrywiaeth

·         Cefnogi cynghorau i reoli eu gweithluoedd yn effeithiol

 

Pwyntiau a sylwadau cyffredinol

4.         Mae’r Gymdeithas yn croesawu’r cyfle i wneud sylwadau ar Fil Drafft Diogelu’r Amgylchedd (cynhyrchion plastig untro) (Cymru).

 

5.         Mae’r Pwyllgor wedi gofyn cyfres o gwestiynau penodol yn eu cais am dystiolaeth, ac mae’r rhain wedi’u nodi isod ynghyd ag ymateb y Gymdeithas.

 

 

6.         A oes angen Bil i gyflwyno gwaharddiad ar eitemau plastig untro sy’n cael eu taflu fel sbwriel yn aml?

 

 

7.         Mae’n hanfodol bod busnesau a’r cyhoedd yn deall beth sydd ei angen, pam a sut i gydymffurfio â hyn. Mae gan Fil Seneddol yn bendant ddigon o broffil i annog y ddadl ddinesig hon a sicrhau bod y mater yn cael sylw. O safbwynt gorfodi, mae cael statud clir gyda llwybrau gorfodi sy’n gymesur ac yn addas hefyd yn hanfodol. Mae’n hanfodol bwysig lleihau’r nifer o ficro-blastigau sy’n mynd i mewn i’r amgylchedd a’r gadwyn fwyd, felly cytunir bod angen y Bil hwn.

 

 

8.         Beth yw manteision ac anfanteision defnyddio Bil yn hytrach nag is-ddeddfwriaeth i gyflwyno gwaharddiad?

 

 

9.         Mae hwn yn fater cyfreithiol technegol ac nid oes gan y Gymdeithas farn am hyn. Byddai’r cyngor cyfreithiol i’r llywodraeth yn egluro hyn ac yn nodi manteision ac anfanteision yr amrywiol ddulliau. Unwaith eto, yr hyn a geisir yw eglurhad ynglŷn â beth, pam a sut a pha lwybr fyddai’n cyflawni hynny’n fwyaf effeithiol.

 

10.      A fydd darpariaethau’r Bil drafft yn cyflawni bwriad y polisi?

 

11.      Yn amlwg, bwriad y Bil yw lleihau’r defnydd amhriodol o gynhyrchion plastig o fewn y gymdeithas a lleihau effeithiau amgylcheddol ehangach eu camddefnyddio a’u gwaredu. Ymddengys y byddai’r Bil drafft yn cyflawni ar yr uchelgais hon, yn amodol ar sawl cafeat.

 

12.      Mae pwyllgorau Senedd Cymru eu hunain wedi nodi’r ffin fandyllog â Lloegr yn y gorffennol a’r effaith y gall hynny ei gael ar ddeddfwriaeth i Gymru yn unig. Mae posib iddo hefyd achosi dryswch ym meddyliau’r cyhoedd ac i fanwerthwyr. Mae gan y Gymdeithas farn am y camau i’w cymryd i atal hyn, a nodir yn glir mewn ymateb i gwestiwn arall. Byddai angen ymgyrch ymgysylltu a chyfathrebu gadarn i gael y cyhoedd i ddeall y rhesymau dros y ddeddfwriaeth hon, yn ogystal â sut i gydymffurfio.

 

13.      Un mater hanfodol yw ymddygiad manwerthwyr o ystyried y gwaharddiadau. Erys pryder am ganlyniadau croes lle mae deunyddiau sydd yr un mor niweidiol i’r amgylchedd yn cael eu defnyddio yn lle plastigion er mwyn cydymffurfio’n dechnegol â’r gwaharddiadau, ond nid yr ethos. Ar y cam hwn, mae’n anodd iawn rhagweld beth fydd yr ymddygiad.

 

14.      Un maes sydd wedi achosi problemau yn y gorffennol yw deunyddiau pydradwy, yn enwedig cyllyll a ffyrc ac ati. Bydd y pwyllgor yn ymwybodol bod pob ALl yng Nghymru yn anfon gwastraff bwyd i safleoedd Treulio Anaerobig (TA) i brosesu’r deunydd a’i droi’n weddillion y gellir eu taenu ar y tir mewn arferion amaethyddol. Yn aml, caiff y deunyddiau pydradwy hyn eu gwaredu gyda’r gwastraff bwyd, ond nid yw’n addas ar gyfer safleoedd TA ac mae’n halogydd. Mae hyn yn peryglu allgynnyrch y safleoedd hyn, a gaiff eu profi’n drylwyr gan Cyfoeth Naturiol Cymru i gyrraedd ardystiad PAS 100, er mwyn sicrhau bod y deunydd sy’n cael ei ledaenu ar y tir yn ddiogel. Dyma un enghraifft yn unig o’r angen i fod yn wyliadwrus o ganlyniadau neu amnewidiadau anaddas, yn enwedig pan fo pobl yn teimlo eu bod yn ‘gwneud y peth iawn’.

 

15.      Mae achosion wedi codi mewn cymunedau di-blastig pan newidiwyd i’r math hwn o ddeunydd yn llawn bwriadau da, ond fod hynny wedyn wedi achosi problemau. Felly mae angen ystyried y deunyddiau hyn yn llawn o ran eu cylch bywyd a’u heffeithiau carbon. Mae angen cynllunio hefyd ar gyfer effaith bosib cynlluniau Cyfrifoldeb Estynedig Cynhyrchwyr ledled y DU yn y dyfodol, yn enwedig lle gallai cwmpas cynlluniau o’r fath gael ei ehangu y tu hwnt i ddeunyddiau pacio. Yn y bôn, mae’r systemau cyfan hyn yn bwriadu ystyried effaith gwahanol ysgogiadau polisi, ac mae eu heffaith yn rhan anodd ond hanfodol o waith y pwyllgor hwn.

 

16.      Enghraifft dda o hyn yw arfer AauLl o gyflenwi bagiau plastig blawd corn, sy’n bydradwy, ar gyfer cadis gwastraff bwyd mewn aelwydydd. Bellach, mae angen tynnu’r rhain allan o’r gwastraff bwyd er mwyn mynd ag ef i safle TA (ac mae’r bagiau’n aml yn mynd i greu Ynni o Wastraff), ac maent ar y cyfan yn costio mwy na dwbl pris bagiau plastig ‘arferol’. Gan na all y bagiau blawd corn hyn, yn ôl eu diffiniad, gynnwys plastig wedi’i ailgylchu, mae’n rhaid talu treth pecynnau plastig arnynt sy’n cynyddu eu cost ymhellach. Y drafferth yw bod y cyhoedd yn ystyried y bagiau hyn yn ddewis mwy ecogyfeillgar ac yn mynegi pryder am AauLl sy’n ceisio newid i ddefnyddio cyflenwadau bagiau plastig traddodiadol ar gyfer cadis aelwydydd (sydd, gyda llaw, yn haws eu tynnu allan o’r gwastraff bwyd na bagiau blawd corn am nad ydynt yn ymestyn cymaint). Mae hon yn ffordd hir o ddangos nad yw materion yn aml mor syml ag y maent yn ymddangos.

 

17.      A oes rhwystrau posib i weithredu darpariaethau’r Bil drafft (gan gynnwys Deddf Marchnad Fewnol y Deyrnas Unedig 2020)?

 

18.      A yw’r pwerau yn y Bil drafft i Weinidogion Cymru lunio is-ddeddfwriaeth yn briodol?

 

19.      Mae’r rhain yn faterion cyfreithiol cymhleth y cawn ar ddeall eu bod yn dal i gael eu profi drwy system gyfreithiol y DU. Felly nid oes gan y Gymdeithas farn am hyn ar wahân i ailddatgan ein safbwynt o ran sybsidiaredd, sef y dylid datganoli’r broses o wneud penderfyniadau i’r lefel briodol isaf (gan sicrhau’r cysondeb a’r eglurdeb angenrheidiol). O ystyried yr angen i’r ddeddfwriaeth ddatblygu ac ymateb i arferion ac amgylchiadau newidiol, mae lefel yr is-bwerau i’w gweld yn briodol.

 

20.      A oes unrhyw ganlyniadau anfwriadol yn deillio o'r Bil drafft?

 

21.      Mae potensial i ddinasyddion a manwerthwyr sy’n parchu’r gyfraith ei thorri yn ddiofal heb ymgyrch gadarn i godi ymwybyddiaeth, rhannu gwybodaeth a chymorth gyda chamau gorfodi. Bu i gyflwyno gwaharddiadau ar ysmygu ac ati yn y gorffennol ddechrau gyda phwyslais ar gymorth i alluogi cydymffurfiad, a byddai hyn yn elfen hanfodol o’r broses hon. Nodir enghraifft ddiweddar o osod isafbris ar uned alcohol isod, i ddangos lefel y gweithredu sydd ei angen. Ar ôl y cyfnod gweithredu cychwynnol hwn, mae’n debyg y bydd AauLl yn defnyddio dull mwy ymatebol o orfodi, yn unol â sawl maes polisi arall a’r angen i flaenoriaethu adnoddau cyfyngedig iawn.

 

22.      Maes arall a amlygir uchod yw’r potensial i fanwerthwyr ddefnyddio deunyddiau eraill sydd hefyd yn gwneud niwed i’r amgylchedd, ond nad ydynt wedi’u cynnwys o dan y gwaharddiad hwn, yn lle plastig. Ar y cam hwn, mae’n amhosib rhagweld yr ymddygiad hwn a pha ddeunyddiau ‘newydd’ fydd yn dod ar y farchnad i lenwi’r bwlch. Felly mae angen i’r ddeddfwriaeth barhau i fod yn ymatebol i ddarpar broblemau.

 

23.      Beth yw goblygiadau ariannol y Bil drafft (gan gynnwys i fusnesau a defnyddwyr)?

 

24.      Mewn perthynas â chostau gweithredu polisi newydd fel hwn yn effeithiol i’r awdurdod lleol, byddent yn dwyn i gof eu profiad diweddar o gyflwyno’r drefn o osod isafbris ar uned alcohol dan Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Cymru).

 

25.      Am gyfnod o tua dwy flynedd cyn rhoi’r drefn ar waith, cynlluniodd Llywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol strategaeth gyfathrebu, llythyrau i fusnesau a hyfforddiant i swyddogion gorfodi. Ar ôl i’r ddeddfwriaeth ddod i rym, bu i’r awdurdodau lleol (y timau safonau masnach) gynnal gwaith addysgu ac arolygu wedi’i dargedu. Bu i hyn alluogi trafodaethau wyneb yn wyneb â busnesau er mwyn iddynt allu cael rhagor o gyngor a chymorth i sicrhau eu bod yn cydymffurfio â’r gofynion newydd.

 

26.      Cytunodd Llywodraeth Cymru i ddarparu £300,000 o gyllid i awdurdodau lleol sicrhau bod y ddeddfwriaeth yn cael ei gwreiddio yng ngweithgarwch cydymffurfio dyddiol busnesau. Rhannwyd y dull wedi’i dargedu dros dair blynedd, gan gytuno ar drefn arolygu gynnar o 3013 o ymweliadau i fusnesau yn ystod tri mis cyntaf blwyddyn gyntaf y ddeddfwriaeth newydd.

 

27.      Ar ôl y 3 mis cyntaf, y gyfradd diffyg cydymffurfiaeth oedd 6% (176 o eiddo). Cynhaliwyd ymweliadau cydymffurfio dilynol, a chyhoeddwyd 6 Rhybudd Cosb Benodedig wedyn am dorri’r rheolau fwy nag unwaith.

 

28.      Mae’r gweithgarwch arolygu a gorfodi bellach yn ymatebol, ar sail gwybodaeth a geir gan y gwasanaethau.

 

29.      Casgliadau

 

30.      Mae’r Gymdeithas yn cefnogi’r darn hwn o ddeddfwriaeth fel cam angenrheidiol i leihau niwed amgylcheddol a gwella ansawdd yr amgylchedd lleol. Mae angen i’r ddeddfwriaeth gael ei chefnogi gan yr adnoddau angenrheidiol i sicrhau bod cydymffurfiad a gorfodaeth yn effeithiol a bod y cyhoedd yn deall y canlyniadau a geisir. Bydd angen parhau i’w adolygu i bennu pa mor effeithiol y mae wedi bod o ystyried y potensial i ddefnyddio deunyddiau eraill yn lle plastig. Bydd angen myfyrio arno hefyd wrth i ddeddfwriaeth/ polisïau eraill gael eu cyflwyno, megis Cyfrifoldeb Estynedig Cynhyrchwyr, Treth pecynnau plastig, rheoliadau ailgylchu annomestig ac estyniad posib i’r Cynllun Masnachu Allyriadau ar gyfer Ynni o Wastraff, i enwi rhai enghreifftiau yn unig.

 

_____________________________________________________________________